Ein dull

ARBENIGEDD, CYD-WEITHIO AC HYBLYGRWYDD...

Tropic staff running a creative meeting

our proses

DULL SY’N MABWYSIADU CYD-WEITHIO.

Diffinio

GWEITHDAI I YMCHWIL I DADANSODDIADAU I STRATEGAETH

Y cam pwysicaf. Byddai cyd-weithio â chi i ddifinio strategaeth uchelgeisiol ond cyflawnadwy i’ch prosiect yn sicrhau fod gennym sylfaeni cadarn o le gall bawb a phopeth ffynnu. Gweithiwn gyda busnesau rydym yn gofalu amdanynt, ac felly mae’n holl bwysig i ni bod ein gwaith yn bwydo mewn i’ch amcanion ehangach.

Creu

BRAND | ANIMEIDDIAD | ARGRAFFU | UX & UI | GWEFAN | CYNNWYS | YMGYRCHOEDD MARCHNATA

Wedi’i arwain gan strategaeth, daw ein dawn greadigol yn fyw yma. Yn ddifater o’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch, rydym yn gweithio mewn sbrintiau, ac yn annog cyfathrebu agored gan ddefnyddio ‘Slack’. Bydd cyfnodau cyson o adborth ac ethos ble rydym yn cydweithio’n effeithiol, yn caniatau i ni i gyd-weithio’n iteraidd a chyflym. Arbenigedd asiantaeth, gydag hyblygrwydd stiwdio.

Cyflwyno

LANSIO I RHANNU GWYBODAETH I HYFFORDDI I LLETYA I CADARNHAOL I YCHWANEGIADAU

Mae’r amser wedi dod. Gyda phopeth nawr wedi’i greu ac yn barod am y byd, mae’n amser lansio. Mae hyn yn edrych ychydig yn wahanol i bob client, felly rydym yn cyd-weithio â chi i greu cynllun sy’n cynyddu’r effaith i’r eithaf. Ond, mae mwy. Rydym yn rhan o hwn i gael effaith gadarnhaol ar y byd, fel bod ein gwaith yn parhau tan ein bod yn gweld y canlyniadau mae’r prosiect yn ei haeddu.

hanfodion

Rydym wedi’n paru gyda Krystal er mwyn cynnig lletya cyflym a diogel o fewn y Deyrnas Unedig. Nid dyna’r cyfan. Gallwch deimlo’n hyderus y bydd eich lleyta wedi’i bweru gan 100% egni adnewyddadwy. Nhw yw’r darparwr cyntaf yn y byd i letya B Corp gydag aelodau ‘1% for the planet’. Maent yn bobl dda, sy’n gwneud y mwyaf o’r haul, gwynt a’r môr.

Credwn yn gryf y dylech berchen ar bopeth. Mae’n gwneud synnwyr ac yn cadw pethau’n syml. Efallai y byddwn yn gosod cyfrifon hysbyseb ar eich cyfer, prynu meddalweddparth cyhoeddus, integreiddio meddalwedd a datblygu llwyfannau, byddwn bob tro’n trosglwyddo’r berchnogaeth i chi. Mae croeso i chi roi mynediad i ni i reoli pethau, ond dylech chi fod mewn rheolaeth.

Arbenigwn yn WordPress, Webflow a llwyfannau Shopify. Nawr ac yn y man, arhoswn i ffwrdd o’r uchod am brosiectau penodol, ond beth rydym yn ei wybod sydd orau. Mae hefyd gennym lu o arfau pwerus ac ychwanegiadau meddalwedd sydd wedi cael eu trio a’u profi, felly rydym yn gwybod eu bod yn gweithio, ac yn gallu cadw pethau’n ddiogel a chynnal cyflymder. Hollol glir.

Mae ein hebostio’n iawn. Mae defnyddio’r ffôn yn well. Mae Whatsapp hefyd yn gweithio. Carwn gyd-weithio wyneb yn wyneb. Gallwn addasu beth sydd orau i chi, ond bydd wastad ffordd uniongyrchol o gysylltu â ni gan ddefnyddio Slack yn ystod prosiect. Credwn mewn cyfathrebu agored, wedi’i gadw’n syml a gyda’r bobl gywir am y sgyrsiau cywir.

Rydym wedi’n selio ar Ynys Môn, lle godidog oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Dyma’n prif ysbrydoliaeth ac yn barc chwarae di-ddiwedd, ond nid oes pawb yma. Mae gennym griw yn gweithio ar arfordir gorllewin yr Alban, Bryste, Brighton a Gorllewin Cymru. Mae ein model hybrid-pell yn gweithio gwyrthiau er mwyn tanio creadigrwydd ac yn ein caniatau i gynnal sesiynau wyneb yn wyneb, ac ar-lein, ble bynnag yn y byd yr ydych chi. Rydym hefyd yn hoff iawn o Google a Miro.

Rydym yn stiwdio ddwyieithog ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Mae hefyd gennym ychydig o Ffrangeg, Sbaeneg a Gaeleg yn ein tîm, felly nid ydym yn estronwyr i wefannau amryw-ieithyddol, ac yn gallu trechu unrhyw her o gyfieithu, heb unrhyw broblem na oedi i’ch prosiect.

Trowch gweledigaeth mewn i realaeth

Ydych ar fin dechrau, neu’n barod i uwchraddio?
Rydym yn barod.