42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

Gwneud AI yn hygyrch i bawb

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

*

42able.ai

Gwneud AI yn hygyrch i bawb

Dod â phŵer 'AI' art flaenau eich bysedd

Yn wreiddiol, cysylltodd tîm 42able.AI â ni i ofyn am arweiniad strategol ynghylch newid eu henw ac ail-frandio.Yn wreiddiol, cysylltodd tîm 42able.ai â ni i ofyn am arweiniad strategol ynghylch newid eu henw ac ail-frandio. Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd eu busnes bellach yn symud i gyfeiriad newydd ac roeddent yn dymuno mynd ati’n rhagweithiol i gyflwyno’u cynnig newydd i’r byd. Fel busnes cychwynnol, roedd gwneud pethau’n briodol ond yn bragmatig ar yr un pryd yn holl bwysig iddynt.

Beth oedd y briff? Archwilio’r farchnad, llunio personau cwsmeriaid a nodi cynigion unigryw i ychwanegu gwerth, datblygu hunaniaeth brand â phersonoliaeth gref, datblygu gwefan drawiadol a sefydlu cynlluniau uchelgeisiol ond cyflawnadwy i sbarduno twf. Ddoe.

Dyddiad:

2023

Cleient:

42able.ai

Gwasanaethau:

Brand | Dylunio | Mentora | Web

CANLYNIADAU

Lansiwyd 42able.AI ym Mawrth 2023 â hunaniaeth brand gofiadwy wedi’i datblygu i ddiwallu anghenion eu cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid. Gallwch ganfod profiad brand cyson ar bob sianel yn sgil y dewis o asedau y gwnaethom eu creu ar eu cyfer, a gwefan drawiadol sydd wedi’i hoptimeiddio’n llawn i’w defnyddio ar declynnau a sgriniau gwahanol. Wrth wraidd y dylunio gwych, ceir hefyd taith gref i ddefnyddwyr a ddatblygwyd ar y cyd â’u tîm arwain i gyflawni cyfraddau trosi sylweddol a sicrhau profiadau pleserus i’w cynulleidfa gyfan.

Yn ogystal ag elfennau brand a gwefan y gwaith, fe wnaethom ni gydweithio’n agos â’u tîm arwain i lunio cynllun twf uchelgeisiol, ac rydym ni bellach yn darparu gwasanaeth mentora busnes arbenigol yn rheolaidd er mwyn gwireddu hyn. Mae cyfuniad o’r gwasanaethau hyn wedi sicrhau ‘r cymorth gofynnol i 42able.AI i’w galluogi i lywio taith gythryblus egin fusnes, a ffynnu yn hytrach na dim ond goroesi. Mae wedi caniatáu iddynt wneud hynny’n gyflymach ac yn fwy effeithlon na’r mwyafrif, felly gallant dreulio mwy o amser yn rhoi sylw i’w cynnyrch a’u cwsmeriaid.

SGROLIWCH I FYNY

mwy o brosiectau

Porwch mwy o waith.

Trowch gweledigaeth mewn i realaeth

Ydych ar fin dechrau, neu’n barod i uwchraddio?
Rydym yn barod.