Diolch i’r gwaith a wnaethom ar ddechrau’r prosiect i ddeall eu cynulleidfaoedd amrywiol a llunio teithiau effeithiol i ddefnyddwyr, llwyddodd Actif i lansio gwefan drawiadol sy’n ennyn diddordeb ac yn cynnig gwybodaeth hollbwysig heb orlwytho. Nid oedd hynny’n waith hawdd. Mae’r wefan hefyd ar gael trwy gyfrwng nifer o ieithoedd, ac mae wedi’i hoptimeiddio’n llawn i’w defnyddio ar unrhyw declyn, sy’n sicrhau ei bod hi’n wefan sy’n wirioneddol hygyrch i bawb.
Fe tîm darbodus sy’n hynod o uchelgeisiol, roeddem yn deall na fuasai treulio amser yn potsian â’r wefan yn ddefnydd buddiol o amser. Dyna pam y gwnaethom ni sicrhau y buasent yn gallu rheoli’r wefan eu hunain yn rhwydd trwy ddatblygu system rheoli cynnwys wedi’i llunio i fod yn hawdd i’w deall a’i defnyddio, cyn cynnal sesiynau hyfforddiant gyda’u tîm a rhoi set o fideos eglurhaol iddynt er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol. Dull di-feth.