Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

Y darparwr byd-eang o ddata,
offer ac atebion iaith

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

*

Pai Technologies

Y darparwr byd-eang o ddata,
offer ac atebion iaith

busnesau technolegol newydd
ar gyfer ieithoedd lleiafrifol

Cychwynnodd ein perthynas â thîm Pai Technologies trwy gynnig gwasanaeth mentora busnes wrth i’r tîm a sefydlodd y busnes gychwyn ar daith newydd. Fel llawer iawn o egin fusnesau, aethant ati’n gyflym i lansio eu cynnig gwreiddiol a gofyn i gwsmeriaid am sylwadau ac adborth. Caniataodd hyn iddynt ailadrodd eu cynnyrch ar wib, ond ymhen amser, daeth yn amlwg nad oedd hunaniaeth wreiddiol eu brand a’u negeseuon bellach yn gweddu i’r gynulleidfa yr oeddent yn ei gwasanaethu erbyn hynny. Roedd pethau wedi newid.

Gofynnodd Pai Technologies i ni gydweithio â hwy fel partner strategol yn ymdrin â sawl agwedd ar y busnes. Wrth wneud hynny, llwyddodd y busnes i fynd ati i ddatblygu’r brand a’u presenoldeb digidol, a datblygu strategaethau marchnata a fyddai’n galluogi i lansio eu cynnig i’r farchnad yn gyflym a gan sicrhau dylanwad di-oed. Fe wnaethant ddefnyddio’r holl wersi yr oeddent wedi’u dysgu i ddatblygu cynnyrch a model busnes gwell.

Dyddiad:

2023

Cleient:

Pai Technologies

Gwasanaethau:

Brand | Dylunio | Mentora | Web

CANLYNIADAU

Trwy gyfuno mentora busnes ag arbenigedd ym meysydd brandiau, gwefannau a marchnata, fe wnaethom ddarparu cymorth cofleidiol i’r tîm yn ystod cyfnod o drawsnewid a thwf. Fe wnaeth y dull teilwredig a hyblyg hwn ganiatáu i’r sylfaenwyr barhau i ganolbwyntio ar eu nodau a sicrhau eglurder i’w cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwell ar adegau allweddol.

Ers lansio hunaniaeth newydd eu brand, mae Pai Technologies wedi magu nerth ac wedi ennill nifer o wobrau i egin fusnesau, ac maent wedi ehangu eu tîm a sicrhau buddsoddiadau i sbarduno eu cynlluniau twf uchelgeisiol. Yn sgil mentora rheolaidd, maent hefyd yn sicrhau gwelliannau o ran arbedion effeithlonrwydd yn eu costau gweithredu, yn lleihau eu hargostau ac yn gwella eu sgiliau arwain ac yn magu mwy o hyder wrth iddynt ddatblygu.

SGROLIWCH I FYNY

mwy o brosiectau

Porwch mwy o waith.

Trowch gweledigaeth mewn i realaeth

Ydych ar fin dechrau, neu’n barod i uwchraddio?
Rydym yn barod.