Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

*

Tritonia

Data dan y dwr ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell

Gyda’r dechnoleg ddiweddaraf a thîm cynyddol, roedd Tritonia Scientific angen diweddariad brand a phresenoldeb digidol a oedd yn adlewyrchu eu harbenigedd a safon eu gwaith. Wrth och ei gwasanaethau ail-gywasgu a deifio brys, maent yn arbenigo mewn ffotogrametreg a darparu data tanddwr cymhleth, diwrthdro, trwy fodelau dealladwy ac ymgynghoriaeth. Eu cenhadaeth yw galluogi gwell penderfyniadau.

Eisoes yn gweithio gyda physgodfeydd, cwmnïau ynni ac awdurdodau yn yr Alban, roeddent yn chwilio am farchnadoedd newydd a chyfleoedd i ehangu i diriogaethau y tu hwnt i’r DU.

Trwy gyfres o weithdai ar y safle gyda rhanddeiliaid allweddol, fe wnaethom ddatgelu eu gwir hunaniaeth fel busnes er mwyn datblygu brand cryf, cyn nodi segmentau cwsmeriaid allweddol ac adeiladu teithiau defnyddwyr ar gyfer pob un o’r rhain. Yna fe wnaethom ddylunio gwefan newydd a’i hadeiladu ar y cyd â’u cwmni datblygu lleol presennol, Derw Digital.

Dyddiad:

2024

Cleient:

Tritonia

Gwasanaethau:

Brand | Dylunio | Web

CANLYNIADAU

Ar ôl llawer o ddadlau ac ymchwil, bu newid enw a dadorchuddiodd Tritonia (Tritonia Scientific gynt) eu brand newydd wrth ochr â gwefan drawiadol a set lawn o asedau creadigol i sicrhau golwg a theimlad cyson ar draws pob sianel. Yn gliriach ynglŷn â phwy ydyn nhw, beth maen nhw’n sefyll drosto a sut maen nhw’n rhagori yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, mae Tritonia wedi gallu cychwyn ar gam nesaf eu taith.

Ers eu lansio, maent wedi ehangu y tu hwnt i’r Alban a’r DU, ac maent bellach yn gweithio ar brosiectau ledled y byd. Mae eu cyrhaeddiad, delwedd ac enw da fel arweinydd marchnad gyda thechnolegau a phrosesau blaengar, hefyd wedi arwain at sicrhau buddsoddiad sylweddol a phartneriaethau newydd gydag Ocean Ecology ac Åkerblå.

Prosiect hynod werth chweil a grŵp gwych o bobl i weithio gydag ef, rydym yn parhau i gefnogi eu twf fel y gallant gyflawni eu pwrpas i alluogi gwell penderfyniadau trwy ddarparu data tanddwr diamheuol a dealladwy.

SGROLIWCH I FYNY

mwy o brosiectau

Porwch mwy o waith.

Trowch gweledigaeth mewn i realaeth

Ydych ar fin dechrau, neu’n barod i uwchraddio?
Rydym yn barod.