Fel egin fusnes yn bwriadu cynhyrfu’r dyfroedd mewn diwydiant hen ffasiwn, fe wnaeth Explorage hoelio ein sylw yn syth. Rydym wrth ein bodd yn mynd o’r afael â her! Yn wreiddiol, fe wnaethom gydweithio i gynnig gwasanaeth mentora arbenigol rheolaidd er mwyn ceisio datrys rhai o’r anawsterau cyffredin a brofir gan egin fusnesau a’u galluogi i gyrraedd eu marchnad yn gyflymach. Fodd bynnag, wrth iddynt fwrw ymlaen â’r daith honno ac wrth i ddyddiad y lansio nesáu, fe wnaethant ofyn i ni sicrhau bod eu brand yn cyfleu pwy ydynt erbyn hyn, i ddatblygu teithiau defnyddwyr sydd â chyfraddau trosi sylweddol ac ail-ddylunio eu gwefan i sicrhau y gallent elwa’n llawn ar bob cyfle pan wnaethant lansio.
Dros dreigl amser, mae ein perthynas wedi parhau i ddatblygu, ac rydym ni hefyd wedi cydweithio â hwy i ehangu hunaniaeth bresennol eu brand, datblygu teithiau defnyddwyr pleserus â chyfraddau trosi sylweddol, ac ail-ddylunio eu gwefan.