ein stori
TÎM BYCHAN,
UCHELGAIS MAWR...
YN ANGERDDOL AM DRI PHWRPAS...
Wedi’i sylfaeni er mwyn dod ag arbenigedd asiantaeth fechan i fusnesau llai gyda dull stiwdio hyblyg, credwn fod gonestrwydd, bod yn uchelgeisiol a datrys problemau yn holl bwysig. Ein nod yw i gau’r bwlch rhwng busnes a chreadigrwydd.
Rydym yn dîm bach o arbenigwyr sydd wedi ymrwymo i wneud gwaith ystyrlon, i safon ragorol. Dyma sy’n ein llenwi ag egni, yn ein cadw’n greadigol ac yn alinio pawb o’n cwmpas sy’n uchafu’r dylanwad.
Rydym yn bobl, sy’n cyd-weithio gyda phobl. Rydym o hyd yn glir, dealladwy a gonest. Rhown wybod beth sydd angen i chi glywed, nid beth yr hoffech glywed. Gall hyn fod yn her ar brydiau, ond dyma’r sylfaeni i’n diwylliant cydweithredol ac yn arwain at ganlyniadau gwych.
Rydym wedi’n selio ar Ynys Môn, wedi’n hamgylchynu gan arfordir godidog a mynyddoedd dramatig yr Eryri, rydym yn stiwdio dwyieithog sy’n cyd-weithio gyda chlientiaid dros Brydain Fawr. Yw hi felly’n amser i gymryd taith ysbrydoledig i ogledd Cymru?
Busnes wedi’i ysbrydoli gan natur. Yn yr un modd mae busnes yn esblygu drwy’r amser, yn goresgyn heriau, cystadlu cyd-fodoli a chyfalafu ar gyfleoedd newydd ac felly rhaid bod yr 80% o rywogaethau sy’n byw ar ein planed yn gwneud yr un peth.
Mae Tropic yn stiwidio ble mae personoliaethau a syniadau yn ffynnu o fewn ein tîm ac yn stiwdio sy’n helpu busnesau ffocysu ar wella’n byd er mwyn uwchafu eu dylanwad.
ein gwerthoedd
Y gwerthoedd craidd sy’n gyrru’r hyn rydym yn ei wneud...
01
Rhyddid
Mae teimlo’n rhydd i fod y person yr hoffech fod, ac i fod yn chwilfrydig yn sefyll ar graidd ein cwmni ni. Mae’n magu creadigrwydd, perthnasoedd gwell a syniadau gwych. Mae’n eich galluogi i weithio mewn eglurder a ffocws bob dydd.
02
Uchelgais
Credwn fod unrhywbeth yn bosib. Hyd yn oed, y pethau sydd i weld ar yr arwyneb yn amhosib. Anaml iawn y mae’n iawn, ond gydag ymrwymiad i fod yn uchelgeisiol, gall ein clientiaid gyflawni mwy na’r hyn a dychmygwyd, tra’n bod yn parhau i ddysgu a thyfu bob dydd.
03
Cydweithio
Does gan yr un pen yr holl atebion. Carwn weld gwahanol safbwyntiau yn cyfuno i greu rhywbeth arbennig. Nid cyfaddawd yw’r ffordd gywir, ond i fod yn ben-agored ac yn fodlon dysgu ffyrdd newydd o weld a gwneud pethau. Mae’r cyfan wedi’i alinio o amgylch yr un nod sydd gan bawb.
ein partneriaid
ein tîm
GWNEUD IDDO DDIGWYDD...
Mae gan bawb yn nhîm Tropic rôl enfawr sy’n cyfrannu at eich helpu chi i wneud rhywbeth pwrpasol a dylanwadol. Dyma pam rydym yn dathlu doniau ein hunigolion, annog personoliaethau i ffynnu a chwerthin am y pethau sy’n eu gwneud yn unigryw. Mae pawb yn gofyn cwestiynau, yn herio safbwyntiau ac yn archwilio diddordebau er mwyn tyfu fel unigolion ac fel tîm.
Olu Peyrasse
Cyd-sylfaenydd + Cyfarwyddwr Strategol
Catrin Owen
Cyd-sylfaenydd + Cyfarwyddwr Creadigol
Emma Hewson
Datblygwr
Amy Davies
Dylunydd Gweledol
Travis Eyles
PAID MEDIA SPECIALIST
Anna Williamson
CONTENT MARKETING MANAGER
Trowch gweledigaeth mewn i realaeth
Ydych ar fin dechrau, neu’n barod i uwchraddio?
Rydym yn barod.