Mae’r Guinness Enterprise Centre yn helpu breuddwydwyr a gwneuthurwyr i adeiladu datrysiadau, tyfu a chysylltu â’r byd. Yn gartref i bob entrepreneur yn Iwerddon, mae eu canolfan yn Nulyn yn darparu gofod, buddsoddiad a chysylltiadau â brandiau byd-eang a chwmnïau technoleg newydd sydd ar flaen y gad.
Er gwaethaf eu rhaglenni llwyddiannus o gymorth a chysylltiadau, doedd eu presenoldeb digidol heb dyfu ar yr un gyfradd â’u harbenigedd a’r hyn roedd ganddynt i’w gynnig. Roedd angen ei ddiweddaru. Gweithiodd Tropic gyda thîm yn Nulyn er mwyn eu cynorthwyo i ddeall eu cynulleidfa amrywiol, yn amrywio o frandiau’r llywodraeth, i frandiau byd-eang, cwmniau dechreuol Gwyddelig a’r gymuned leol.
Yna fe wnaethom ddefnyddio hyn fel sail ar gyfer dylunio gwefan newydd a diweddaru agweddau ar eu brand i roi iddynt yr offer yr oedd eu hangen arnynt i gael presenoldeb ar-lein cyson ac apelgar yn weledol.