Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

Marina gwasanaeth llawn, ar ynys unigryw

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

*

Kerrera Marina

Marina gwasanaeth llawn, ar ynys unigryw

Bwcedi o bersonoliaeth yn
Kerrera Marina

Cysylltodd Tim a Gill â ni pan oeddent wrthi’n cymryd awenau marina, bwyty, llety gwyliau a fferm ar Ynys Kerrera, ar arfordir gorllewin yr Alban. Ar yr un pryd, roeddent yn magu dau ‘greadur hanner gwyllt’ (dyna’u disgrifiad hwy) ac nid oedd ganddynt unrhyw fuddsoddiadau. Mae hynny’n grynodeb teg o’r ddau a dyna’r math o uchelgais a’r agwedd benderfynol sy’n sicrhau ein bod ni wrth ein bodd yn cydweithio â chleientiaid tebyg iddynt hwy.

Nid oedd y marina mewn cyflwr gwych a chafwyd sawl perchennog newydd (a sawl brand gwahanol) yn ystod blynyddoedd diweddar. Eu gweledigaeth oedd ailenwi, ail-frandio ac ail-lansio’r marina â newydd wedd oedd yn cyfleu eu gwerthoedd hwy a rhai’r ardal, gan sicrhau y gallai cwsmeriaid ymgysylltu’n ddidrafferth â hwy, beth bynnag fo’u hanghenion. Roeddent am weld cymuned Oban a Kerrera yn ymfalchïo yn y marina ac yn magu hyder ynddi unwaith eto.

Fe wnaethom gychwyn y gwaith trwy gynnal nifer o alwadau i drafod strategaethau (a chawsom rywfaint o ymweliadau â’r Alban) i fod pawb ohonom ni’n rhannu’r un meddylfryd ac i sicrhau ein bod yn deall beth yn union oed angen i’r brand a’r wefan newydd ei gyflawni. Yna, fe wnaethom ni greu hunaniaethau brand ategol ar gyfer y marina a’r bwyty, ystyried anghenion eu cwsmeriaid gwahanol a datblygu teithiau defnyddwyr newydd ar gyfer eu gwefan. Fe wnaeth hynny ganiatáu i ni greu gwefan ddifyr â llond trol o bersonoliaeth, yn cynnig adnoddau i ymwelwyr, ac wrth gwrs, yn galluogi cwsmeriaid i archebu’n ddi-oed.

Fe wnaethom ni hefyd greu nifer o asedau digidol a phrint i gefnogi’r gwaith cysylltiadau cyhoeddus yn ymwneud â lansio eu busnes, ac er mwyn eu galluogi i gyfleu neges gyson, pa un ai a fydd cwsmeriaid yn cyrraedd trwy gyfrwng eu gwefan neu gyfryngau cymdeithasol, neu ar gwch.

Dyddiad:

2023

Cleient:

Kerrera Marina

Gwasanaethau:

Brand | Dylunio | Web

CANLYNIADAU

Aeth Tim, Gill a’r plant ati’n falch i lansio Marina Kerrera a bwyty Waypoint gan gyfleu brand cryf iawn a phrofiad cyson ar draws pob sianel. Mae wedi cael croeso cynnes gan y gymuned gyfan ac mae pobl ym mhobman wedi dod i wybod am Ynys Kerrera a’u Marina, ac mae nifer gynyddol o forwyr yn dewis angori gyda hwy.

Roeddem yn falch iawn o weld sut yr oedd eu hegni a’u personoliaethau yn dod i’r amlwg trwy hunaniaeth y brand a naws y busnes. Mae bob cwsmer yn teimlo bod croeso iddynt gysylltu â hwy a chânt eu hannog i wneud hynny, a gallant ganfod manylion y gwasanaethau gofynnol, boed yn wasanaeth i gwch, lle i angori cwch neu bryd yn y bwyty.

Ewch i’r Waypoint i fwynhau peint o gwrw a hanesion am y môr a chwerthin llond eich bol.

SGROLIWCH I FYNY

mwy o brosiectau

Porwch mwy o waith.

Trowch gweledigaeth mewn i realaeth

Ydych ar fin dechrau, neu’n barod i uwchraddio?
Rydym yn barod.