Daeth Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, un o bedair partneriaeth ledled Cymru, atom i ddatblygu porth ar-lein a fyddai’n symleiddio sgiliau, cyflogaeth a chyfleoedd tŵf busnes yn y rhanbarth, ac yn cysylltu’r dotiau rhwng unigolion, cyflogwyr, a darparwyr hyfforddiant a chymorth.
Gan daclo her benodol o fewn strwythur Uchelgais Gogledd Cymru, aethom ati i ddiffinio a datblygu hunaniaeth brand a fyddai’n dal sylw ac atseinio cynulleidfa amrywiol ac yn gweithio’n ddwyieithog mewn amgylcheddau digidol a di-ddigidol. Darparodd hyn sylfaen gadarn y gallem wedyn ddylunio ac adeiladu’r Portal ei hun ohoni, gyda phwyslais ar UX da, hygyrchedd a system rheoli cynnwys sy’n hawdd i ddefnyddio.